SL(5)421 - Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019, Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 a Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019.
Diwygiwyd Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 a Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) 2019 er mwyn:
· defnyddio’r term 'papur newydd sy'n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon’ yn lle 'papur newydd cenedlaethol';
· cyfeirio at ‘gyngor dosbarth’ yn hytrach nag ‘Adran yr Amgylchedd’ yng Ngogledd Iwerddon, lle bo hynny'n berthnasol.
SL(5)343 - Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019
· pennu cyfnod pan mae’n rhaid cyhoeddi'r hysbysiad am yr ymchwiliad; a
· darparu ar gyfer rhoi gwybod am yr ymchwiliad drwy gyfrwng hysbysiad lleol.
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y defnydd o'r term 'papur newydd cenedlaethol' yn ystod y gwaith craffu technegol gan nad oedd yn glir a oedd 'cenedlaethol' yn cyfeirio at bapur newydd cenedlaethol Cymreig neu bapur newydd yn y DU. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r penderfyniad i newid y term ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am roi sylw i’w bryderon.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
24 Mehefin 2019